Bydd cwmni ymchwil Arad ynghyd ag Ymchwil OB3 yn gweithio mewn partneriaeth dros y misoedd nesaf wrth ymgymryd ag adolygiad annibynnol o waith y Mudiad Meithrin. Bydd yr adolygiad yn edrych ar drefniadau cyllido, strwythur a gweithgaredd y Mudiad Meithrin fel asiant hollbwysig i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.