OB3 i werthuso cynllun PQASSO i Gymru

Dros y flwyddyn nesaf, bydd Ymchwil OB3 yn mynd ati i gynnal gwerthusiad terfynol o gynllun PQASSO i Gymru. Nod PQASSO i Gymru yw cryfhau ansawdd y trydydd sector yng Nghymru. Mae'n gynllun a arianwyd gan y Gronfa Loteri Fawr dros bum mlynedd yng Nghymru. Mae'n cael ei redeg gan yr NCVO.

Bydd y gwerthusiad terfynol yma yn edrych yn benodol ar beth sydd wedi gweithio'n dda a beth y gellid fod wedi ei wella, sut mae'r prosiect yn gwneud gwahaniaeth i'r sefydliadau a sut mae adeiladu ar y gwaith a gyflawnwyd hyd yma. Bydd y broses werthuso yn cynnwys dadansoddi data a gwybodaeth, cyfweld staff, mentoriaid ac aseswyr, a sefydliadau sydd wedi bod ynghlwm gyda gwahanol elfennau o'r cynllun gan adrodd ddiwedd 2018.