Cyhoeddi adroddiad OB3 i ddyheadau entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru

Mae adroddiad newydd ar entrepreneuriaeth ieuenctid yng Nghymru wedi ei gyhoeddi heddiw gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ymchwil, a gyflawnwyd gan Ymchwil OB3 a Beaufort Research, yn paentio darlun cadarnhaol o uchelgais, annibyniaeth a phenderfyniad ymhlith entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru. Comisiynwyd yr ymchwil i adnabod a deall y gyrwyr a'r rhwystrau sy'n dylanwadu ar entrepreneuriaid ifanc sy'n ystyried sefydlu, neu sydd wedi dechrau mewn busnes. Mae copi o'r adroddiad ar gael yma.