Yn ddiweddar, bu OB3 yn gweithio ar werthusiad o broses ac allbynnau’r prosiect Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad llawn o’n canfyddiadau bellach wedi ei gyhoeddi. Gellir bwrw golwg ar yr adroddiad llawn a’r crynodeb yma.
Nod y prosiect PaCE yw cynorthwyo rhieni di-waith i dderbyn hyfforddiant neu swydd os mai gofal plant yw eu prif rwystr rhag gwneud hynny.
Mae'r adroddiad hwn yn ystyried:
a yw'r rhaglen yn cael ei chyflwyno yn ôl y bwriad
nodweddion y bobl sy’n cymryd rhan
natur y cymorth a ddarperir
perfformiad y rhaglen hyd yma.
Canfyddiadau allweddol
Roedd gan 100% o gyfranogwyr PaCE gyfrifoldebau gofal plant ac roedd 96% ohonynt yn fenywod.
Mae dros draean o'r holl gyfranogwyr wedi symud i mewn i waith, sy'n sylweddol uwch na’r targed, sef 20%.
Cyn ymuno â PaCE, roedd y rhieni'n brin o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r gofal plant sydd ar gael.
Ymddengys bod achosion o faterion iechyd meddwl lefel isel ymysg y bobl a gymerodd ran.
Mae rhesymau cyfranogwyr dros ymgysylltu â PaCE yn amrywio, ond mae gan lawer ohonynt awydd gwirioneddol i ddod o hyd i waith.
Yn gyffredinol, roedd gan gyfranogwyr berthynas dda â'u hymgynghorwyr.
Roedd y cyfranogwyr a oedd wedi ymgymryd â lleoliadau gwirfoddoli yn y gwaith yn hynod bositif am y profiad.
Ymddengys bod systemau rheoli a gweinyddu yn gweithio'n dda ar y cyfan.
Mae'r gwaith o hyrwyddo PaCE wedi bod ar lefel eithaf isel.
Mae cynghorwyr PaCE yn gweithio o amrywiaeth o leoliadau cymunedol.
Ymddengys bod PaCE yn cael effeithiau ehangach ar gyfranogwyr a'u teuluoedd y tu hwnt i'w galluogi i symud i waith, addysg, hyfforddiant neu gymwysterau.
Bydd yr adroddiad nesaf yn y gyfres yn archwilio’r prosiect, ei effeithiau a’r gwerth am arian a gafwyd.