Cyhoeddi Gwerthusiad OB3 o brosiect PaCE

Yn ddiweddar, bu OB3 yn gweithio ar werthusiad o broses ac allbynnau’r prosiect Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad llawn o’n canfyddiadau bellach wedi ei gyhoeddi. Gellir bwrw golwg ar yr adroddiad llawn a’r crynodeb yma.

Nod y prosiect PaCE yw cynorthwyo rhieni di-waith i dderbyn hyfforddiant neu swydd os mai gofal plant yw eu prif rwystr rhag gwneud hynny.

Mae'r adroddiad hwn yn ystyried:

  • a yw'r rhaglen yn cael ei chyflwyno yn ôl y bwriad

  • nodweddion y bobl sy’n cymryd rhan

  • natur y cymorth a ddarperir

  • perfformiad y rhaglen hyd yma.  

Canfyddiadau allweddol

  • Roedd gan 100% o gyfranogwyr PaCE gyfrifoldebau gofal plant ac roedd 96% ohonynt yn fenywod. 

  • Mae dros draean o'r holl gyfranogwyr wedi symud i mewn i waith, sy'n  sylweddol uwch na’r targed, sef 20%. 

  • Cyn ymuno â PaCE, roedd y rhieni'n brin o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r gofal plant sydd ar gael.

  • Ymddengys bod achosion o faterion iechyd meddwl lefel isel ymysg y bobl a gymerodd ran. 

  • Mae rhesymau cyfranogwyr dros ymgysylltu â PaCE yn amrywio, ond mae gan lawer ohonynt awydd gwirioneddol i ddod o hyd i waith. 

  • Yn gyffredinol, roedd gan gyfranogwyr berthynas dda â'u hymgynghorwyr.

  • Roedd y cyfranogwyr a oedd wedi ymgymryd â lleoliadau gwirfoddoli yn y gwaith yn hynod bositif am y profiad.  

  • Ymddengys bod systemau rheoli a gweinyddu yn gweithio'n dda ar y cyfan.

  • Mae'r gwaith o hyrwyddo PaCE wedi bod ar lefel eithaf isel.

  • Mae cynghorwyr PaCE yn gweithio o amrywiaeth o leoliadau cymunedol.

  • Ymddengys bod PaCE yn cael effeithiau ehangach ar gyfranogwyr a'u teuluoedd y tu hwnt i'w galluogi i symud i waith, addysg, hyfforddiant neu gymwysterau.

Bydd yr adroddiad nesaf yn y gyfres yn archwilio’r prosiect, ei effeithiau a’r gwerth am arian a gafwyd.