Comisiynwyd OB3 Research gan Gofal Cymdeithasol Cymru i gynnal gwerthusiad o rôl y Cysylltydd Gyrfa Gofal Rhanbarthol (cysylltydd rhanbarthol).
Ariennir rôl y cysylltydd rhanbarthol gan CChC drwy grant blynyddol a ddyrennir i'r saith rhanbarth iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n dod o dan ddarpariaeth Gofalwn Cymru, a lansiwyd yn 2019, i godi proffil cadarnhaol ac ymwybyddiaeth o yrfaoedd mewn gofal (gan gynnwys gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar, yn ogystal â gofal plant a chwarae).
Sefydlwyd rôl y cysylltydd rhanbarthol i gyflenwi a chefnogi’r gweithgaredd cenedlaethol ar lefel ranbarthol a lleol a chysylltu â phartneriaid a rhwydweithiau allweddol. Cyflawnir y rôl gan un unigolyn a gyflogir ym mhob un o saith rhanbarth iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.
Nod yr adolygiad oedd rhoi arwyddion clir o'r hyn sy'n gweithio, yr hyn nad yw'n gweithio a chynnig argymhellion i wneud y mwyaf o fuddsoddiad i gefnogi recriwtio. Roedd disgwyl i’r adolygiad gwmpasu:
beth sydd wedi gweithio'n dda
pa fuddsoddiad yn y rôl a gyflawnwyd
yr hyn nad yw wedi gweithio'n dda a chyfleoedd i wella
opsiynau ar gyfer cyflawni ymgysylltiad rhanbarthol gweithgareddau Gofalwn Cymru a argymhellion ar gyfer y dyfodol.