Mae Ymchwil OB3 wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yng Nghymru.
Nod yr adolygiad yw archwilio effeithiau’r LCA yng Nghymru, a’r meini prawf cymhwysedd presennol a gwerth y dyfarniad. Disgwylir i'r adolygiad hefyd ddarparu argymhellion i lywio polisi a phenderfyniadau yn y dyfodol yn ymwneud â buddsoddi yn y cynllun yn y dyfodol.
Mae’r adolygiad yn asesu:
effaith y LCA ar benderfyniadau dysgwyr i ymgymryd ag astudiaeth bellach (gan ystyried y gyfradd flaenorol o £30 a chyfradd uwch newydd o £40 o fis Ebrill 2023)
effaith y LCA ar ymgysylltiad dysgwyr â'u hastudiaethau ar ôl iddynt gofrestru
effaith y LCA ar allu dysgwyr i ymdopi â phwysau ariannol yn fwy cyffredinol, yn benodol yn sgil yr argyfwng costau byw
y meini prawf cymhwysedd a gwerth cymorth y LCA sut y dylid parhau i adolygu meini prawf a gwerth cymorth yn y dyfodol
ai’r model LCA yw’r model mwyaf effeithiol ac effeithlon i gefnogi dysgwyr neu a ddylid ystyried modelau amgen.