OB3 i gynnal ymchwil ansoddol ar gyfer Tasglu'r Cymoedd

our_valleys_our_future.jpg

Sefydlwyd Tasglu Gweinidogol Cymoedd De Cymru gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2016. Cyhoeddwyd cynllun Tasglu’r Cymoedd - Ein Cymoedd, Ein Dyfodol - ym mis Gorffennaf 2017, ac mae’n rhestru tair blaenoriaeth:

Blaenoriaeth 1: Swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w gwneud

Blaenoriaeth 2: Gwell gwasanaethau cyhoeddus

Blaenoriaeth 3: Fy nghymuned

Mae'r Cynllun Gweithredui ar gyfer Tasglu'r Cymoedd (VTF) yn canolbwyntio ar saith maes allweddol: Tai, Economi Sylfaenol, Entrepreneuriaeth a chymorth busnes, Trafnidiaeth, hybiau Strategol, cronfa arloesi tasglu'r Cymoedd a Pharc Rhanbarthol y Cymoedd.

Bydd gwerthusiad o'r VTF yn anelu at grynhoi'r cynnydd a wnaed gan y VTF - sut mae wedi gweithio a pha mor effeithiol fu'r dull rhanbarthol o ddatblygu a chyflawni polisi. Bydd OB3 yn cynnal ac yn dadansoddi cyfres o gyfweliadau ansoddol manwl gyda sampl o randdeiliaid allanol ac yn darparu adroddiad i Lywodraeth Cymru ar y canfyddiadau allweddol.