OB3 i werthuso Sefyll Dros Natur Cymru

Comisiynwyd OB3 Research (OB3), mewn partneriaeth â Severn Wye Energy Agency Ltd (SWEA), gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i werthuso’r prosiect Sefyll Dros Natur Cymru.

Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru wedi derbyn £2.5 miliwn i ddarparu’r prosiect drwy Gronfa Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Prosiect Sefyll dros Natur Cymru yw'r tro cyntaf i bob un o'r pum ymddiriedolaeth bywyd gwyllt rhanbarthol yng Nghymru, ynghyd ag Ymddiriedolaethau Natur Cymru sefydlu partneriaeth ffurfiol a chyflenwi prosiect cydweithredol ar y raddfa hon.

Nod ‘Sefyll dros Natur Cymru’ yw sicrhau Cymru sy'n gyfoethocach ym maes bywyd gwyllt, lle mae pobl ifanc 9-24 oed) yn ysgogi ymddygiadau newidiol drwy ddylanwadu ar gyfoedion a chymunedau i gymryd camau cadarnhaol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Nod y gwerthusiad yw asesu i ba raddau mae'r prosiect wedi cyflawni ei nodau a'i amcanion a'r gwahaniaeth y mae wedi'i wneud i bobl sydd wedi ymgysylltu â'r prosiect.