OB3 yn gwerthuso rhaglen grant cyfalaf ar gyfer amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu OB3 Research i werthuso rhaglen y Grant Cyfalaf Trawsnewid. Cronfa grant cyfalaf yw hon, sydd ar gael i amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol Cymru i'w galluogi i drawsnewid y modd y darperir gwasanaethau trwy ddatblygu cyfleusterau a gwasanaethau cynaliadwy, modern, deniadol.

Rheolir y gronfa gan Is-adran Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru ac mae wedi darparu dros £5m o gyllid cyfalaf i amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yng Nghymru ers 2017.

Nod yr ymchwil yw darparu gwerthusiad proses o'r rhaglen Grant Cyfalaf Trawsnewid. Bydd y gwaith yn cael ei wneud rhwng Ionawr 2021 a Mehefin 2022 gyda’r canfyddiadau’n llywio’r gwaith o ddylunio a chyflawni’r rhaglen yn y dyfodol.