Cyhoeddi adroddiad gwerthuso OB3 o Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant

Mae adroddiad gwerthuso OB3 o raglen Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant gan Lywodraeth Cymru bellach wedi ei gyhoeddi.

Mae’r rhaglen yn gweithio gyda sefydliadau i gefnogi dinasyddion a staff i fod yn ddigidol hyderus, gan ganolbwyntio ar allu rheoli a chael mynediad at wasanaethau iechyd hanfodol.

Mae'r gwerthusiad yn cael ei gynnal mewn tri cham allweddol sy'n cynnwys:

  • y gwerthusiad proses a damcaniaeth newid hwn

  • gwerthusiad interim a gwerthusiad o ganlyniadau

  • a gwerthusiad terfynol crynodol

Prif nodau’r cam gyntaf hwn yn y gwerthusiad yw:

  • adolygu a chrynhoi'r dystiolaeth bresennol ynghylch y berthynas rhwng cynhwysiant digidol ac iechyd

  • adolygu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y ffordd y cyflwynwyd y rhaglen

  • cyflwyno model Damcaniaeth Newid ar gyfer y rhaglen.

Mae tair thema allweddol i ganfyddiadau'r cam hwn.

  1. Dylunio a gweithredu’r rhaglen.

  2. Recriwtio derbynyddion.

  3. Ymgysylltu â sefydliadau a’u cefnogi.

Mae'r gwerthusiad yn cynnig saith argymhelliad i Lywodraeth Cymru eu hystyried wrth gyflawni'r rhaglen.

I weld copi o’r adroddiad llawn cliciwch yma. Am grynodeb o’r prif ganfyddiadau ac argymhellion cliciwch yma.