OB3 yn gwerthuso Contract Economaidd Llywodraeth Cymru

Comisiynwyd OB3, mewn cydweithrediad â Chwmpas, gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad o’r Contract Economaidd ar ei newydd wedd, a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2022.

Nod y gwerthusiad yw darparu asesiad annibynnol o effaith y Contract Economaidd drwy ganfod i ba raddau y gellir priodoli unrhyw newidiadau ymddygiad ymhlith busnesau yn uniongyrchol i'r Contract Economaidd.

Disgwylir i’r gwerthusiad:

  • asesu effeithiolrwydd y templed Contract Economaidd diwygiedig

  • asesu'r prosesau asesu, gweithredu ac adolygu Contract Economaidd diwygiedig

  • asesu defnydd y Contract Economaidd ar ei newydd wedd o ‘addewidion’ fel arf polisi ar gyfer dylanwadu ar newidiadau diriaethol mewn ymddygiad busnes fel eu bod yn cyd-fynd ag uchelgeisiau Llywodraeth Cymru dros gyfnod y contract dwy flynedd

  • gynnal cymhariaeth ryngwladol o'r hyn y mae llywodraethau tebyg eraill yn ei wneud i annog arferion busnes cyfrifol a pha mor llwyddiannus y bu'r rhain

  • cynnal ymchwil sylfaenol gyda derbynwyr llwyddiannus y Contract Economaidd i sefydlu pa ymddygiadau busnes oedd cyn, neu ar ddechrau, eu cytundeb economaidd ac i benderfynu sut a pham y newidiodd ymddygiadau o’r fath yn ystod eu perthynas â Llywodraeth Cymru.