OB3 mewn partneriaeth i werthuso'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol

Mae OB3 yn aelod o bartneriaeth a arweinir gan Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC), sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), sydd wedi cael contract sydd â chyfanswm gwerth o fwy na £1m ar gyfer gwerthuso cenedlaethol y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol (RIF).

Mae’r rhaglen waith tair blynedd yn gydweithrediad rhwng PDC, Ymchwil OB3, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Gorllewin yr Alban, a Phrifysgol Bangor.

Wedi’i lansio yn gynnar yn 2022, mae’r RIF – sy’n werth tua £150 miliwn y flwyddyn – wedi darparu ffocws o’r newydd ar ofal yn y gymuned, iechyd a llesiant emosiynol, gan gefnogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd yn ddiogel, plant sydd wedi bod mewn gofal, gwasanaethau o’r ysbyty i’r cartref a datrysiadau seiliedig ar lety.

Dywedodd yr Athro Mark Llewelyn, Cyfarwyddwr WIHSC: “Mae ein partneriaeth wedi’i chomisiynu i ddeall y ffordd y mae’r RIF yn cyflawni’r addewid trawsnewidiol a nodwyd ganddi.

“Nod gwerthusiad y RIF yw deall effaith gwahanol fodelau gofal. Byddwn yn ymchwilio i gostau economaidd a manteision y modelau hynny ac yn ymchwilio i ba raddau y maent yn sicrhau’r canlyniadau cywir i bobl.

“Gofynnwyd i ni archwilio a yw’r modelau gofal hynny wedi profi’n effeithiol, ac os felly, sut y gallant gynnig ‘templedi’ i’r system ehangach ddysgu oddi wrthynt fel bod Cymru gyfan yn elwa.”