Ymchwil i arferion asesu yn y Cyfnod Sylfaen

Mae Ymchwil OB3 yn rhan o'r tîm ymchwil, dan arweiniad Miller Research, sydd ar hyn o bryd yn cynnal ymchwil i arferion asesu yn y Cyfnod Sylfaen. Mae'r ymchwil yn bwriadu archwilio effaith gyffredinol asesu ar addysgu a dysgu. Bydd yn archwilio sut mae ymarferwyr yn integreiddio'r asesiadau i'w haddysgu, a sut mae'r data'n cael ei ddefnyddio i fonitro cynnydd disgyblion. Bydd hefyd yn ystyried effeithiau'r asesiad ar les disgyblion. Bydd yr ymchwil yn ceisio nodi rhwystrau i weithredu'r asesiadau personol ar-lein ac yn tynnu sylw at arfer da.

Bydd yr ymchwil yn darparu argymhellion ar gyfer penderfyniad polisi yn y dyfodol ynghylch asesu yn y Cyfnod Sylfaen.