OB3 yn adolygu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) yng Nghymru

Mae Ymchwil OB3 wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yng Nghymru.

Nod yr adolygiad yw archwilio effeithiau’r LCA yng Nghymru, a’r meini prawf cymhwysedd presennol a gwerth y dyfarniad. Disgwylir i'r adolygiad hefyd ddarparu argymhellion i lywio polisi a phenderfyniadau yn y dyfodol yn ymwneud â buddsoddi yn y cynllun yn y dyfodol.

Mae’r adolygiad yn asesu:

  • effaith y LCA ar benderfyniadau dysgwyr i ymgymryd ag astudiaeth bellach (gan ystyried y gyfradd flaenorol o £30 a chyfradd uwch newydd o £40 o fis Ebrill 2023)

  • effaith y LCA ar ymgysylltiad dysgwyr â'u hastudiaethau ar ôl iddynt gofrestru

  • effaith y LCA ar allu dysgwyr i ymdopi â phwysau ariannol yn fwy cyffredinol, yn benodol yn sgil yr argyfwng costau byw

  • y meini prawf cymhwysedd a gwerth cymorth y LCA sut y dylid parhau i adolygu meini prawf a gwerth cymorth yn y dyfodol

  • ai’r model LCA yw’r model mwyaf effeithiol ac effeithlon i gefnogi dysgwyr neu a ddylid ystyried modelau amgen.