Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Arad ac OB3 i gynnal gwerthusiad o'r Safonau Proffesiynol ar gyfer addysgu, arwain a chynorthwyo addysgu.
Mae gan safonau proffesiynol ran bwysig i'w chwarae wrth gyflawni'r diwygiadau trawsnewidiol i'r system addysg yng Nghymru.
Wedi'u datblygu mewn ymgynghoriad ag ymarferwyr, ysgolion a phartneriaid allweddol yn y system addysg yng Nghymru, mae Safonau Proffesiynol newydd wedi'u cyflwyno ar draws y gweithlu er 2017. Mae'r safonau, sy'n cynrychioli gwyro radical o'r hen safonau, wedi'u cynllunio i ysbrydoli, herio. a chefnogi TAs, HLTAs a phob ymarferydd o'r hyfforddiant cychwynnol hyd at arweinyddiaeth ysgol. Mae'r safonau'n adlewyrchu'r diwygiadau ac yn canolbwyntio ar yr ystod o sgiliau ac ymddygiadau i gynorthwyo ymarferwyr i baratoi ar gyfer eu rôl yn y cwricwlwm newydd. Bydd deall sut mae gwahanol grwpiau ymarferwyr, ysgolion a sefydliadau cysylltiedig yn gweld ac yn defnyddio'r safonau dros amser yn llywio datblygiad polisi parhaus Llywodraeth Cymru gan gynnwys gweithgaredd sy'n ymwneud â chefnogi anghenion dysgu proffesiynol.
Nod y gwerthusiad yw asesu gweithrediad, effeithiolrwydd ac effeithiau disgwyliedig y safonau o ran eu gallu i gefnogi datblygiad gweithlu medrus iawn sy'n barod i gwrdd â heriau diwygio addysg yng Nghymru. Bydd y gwerthusiad yn:
Asesu'r ymgysylltiad â safonau ymhlith ymarferwyr.
Adolygu gweithrediad y safonau ymhlith ymarferwyr
Deall pa ffactorau a / neu amodau sy'n cefnogi neu'n rhwystro gweithrediad effeithiol y safonau
Ystyried a yw'r safonau wedi bod yn effeithiol o ran eu bwriad i:
Gosod disgwyliadau clir ynghylch ymarfer effeithiol yn ystod gyrfa ymarferydd gan gynnwys, lle bo hynny'n berthnasol, mynediad i'r proffesiwn
Galluogi ymarferwyr i fyfyrio ar eu harfer, yn unigol ac ar y cyd, yn erbyn safonau ymarfer effeithiol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol a chadarnhau a dathlu eu llwyddiannau
Cefnogi ymarferwyr i nodi meysydd ar gyfer datblygiad proffesiynol pellach; a
Ffurfio cefndir i'r broses rheoli perfformiad.
Archwilio'r effeithiau disgwyliedig o weithredu'r safonau ar lefel ymarferydd, ysgol a system.
Gwneud argymhellion ar gyfer polisi ac arfer yn y dyfodol ar draws y system gyfan i gefnogi gweithredu ac effeithiolrwydd y safonau yn y dyfodol.