Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi papur gwyn sy’n amlinellu cynigion ar gyfer Bil Partneriaeth Gymdeithasol i atgyfnerthu trefniadau yng Nghymru a darparu fframwaith i hyrwyddo gwell cydraddoldeb cymdeithasol ar gyfer gweithwyr ar draws yr economi.
Bwriad y papur gwyn yw:
sefydlu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol statudol
rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol a hyrwyddo amcanion gwaith teg
ei gwneud yn ofynnol i rai cyrff cyhoeddus lunio strategaeth gaffael sy’n dilyn canllawiau statudol.
Bydd OB3 yn dadansoddi’r holl ymatebion i’r ymgynghoriad ac yn paratoi adroddiad sy’n crynhoi’r prif faterion sy’n codi ac yn cyflwyno’r canfyddiadau i swyddogion.
Mwy o newyddion