Cyhoeddi ail adroddiad gwerthuso OB3 o brosiect PaCE (Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth)

PaCE.png


Mae ail adroddiad gwerthuso OB3 ar brosiect PaCE (Rhiant, Gofal Plant a Chyflogaeth) Llywodraeth Cymru bellach wedi’i gyhoeddi.

Nod PaCE yw cynorthwyo rhieni sydd allan o waith i hyfforddi neu gyflogaeth lle mai gofal plant yw eu prif rwystr rhag gwneud hynny.

Mae’r adroddiad yn edrych yn fanylach ar brofiadau a chanlyniadau cyfranogwyr.

Mae’r prif ganfyddiadau fel a ganlyn:

  • Roedd llawer yn teimlo ei bod yn annhebygol y byddent wedi dod o hyd i waith heb gymorth PaCE. Roeddent yn teimlo bod cymorth ac anogaeth eu cynghorwyr yn arbennig o werthfawr.

  • Roedd gwerthfawrogiad i’r cyngor ar sut i ddod o hyd i ofal plant, ei drefnu neu dalu amdano tra bo rhieni yn dilyn hyfforddiant neu’n gweithio. Yn fwy felly ymhlith dynion, gan fod llai o rwydweithiau cymdeithasol ganddynt o bosibl.

  • Roedd y niferoedd a gafodd gymorth gyda hyfforddiant, cymwysterau a lleoliadau yn is. Fodd bynnag, roedd y rheini a wnaeth o’r farn bod yr hyder a’r sgiliau a ddatblygwyd ganddynt yn amhrisiadwy.

  • Roedd mwyafrif y rheini a gyfwelwyd, a oedd mewn gwaith, ar gyflog isel. Roedd y rheini a oedd wedi newid eu swydd wedi gwneud hynny am resymau’n ymwneud ag ansicrwydd y gwaith yn aml.

  • Yn gyffredinol, roedd yr unigolion a oedd yn y rolau hynny yn eu mwynhau, ac roeddent yn darparu rhywfaint o incwm. Roedd y swyddi hefyd yn cynnig hyblygrwydd a manteision cymdeithasol.

  • Roedd y mwyafrif wedi cymryd swyddi rhan-amser i gyd-fynd â gofal plant. Fodd bynnag, yn achos y rheini â phlant oed ysgol, roedd y gwyliau yn broblem o ran gofal plant. Roedd hyn yn waeth i’r rheini heb rwydweithiau agos o’u cwmpas.

I weld copi o'r adroddiad llawn, cliciwch yma.

Bydd yr adroddiad nesaf yn y gyfres yn archwilio effaith unigryw PaCE ar gyfranogwyr a gwerth am arian y rhaglen.