Cyhoeddi ymchwil gan OB3 ar drefniadau sefydlu statudol athrawon

research-on-teachers-statutory-induction_0-thumb_jpg.jpg

Ym mis Ebrill cyhoeddwyd adroddiad ymchwil a baratowyd gan OB3 ar ran Llywodraeth Cymru i drefniadau sefydlu statudol athrawon.

Canfu’r gwaith ymchwil fod ychydig dros hanner yr athrawon sy’n cychwyn y broses sefydlu yn ei chwblhau o fewn blwyddyn.

Er bod yna ystod eang o wybodaeth fanwl, ragorol i ategu’r broses sefydlu gan nifer o ffynonellau a sefydliadau, nid yw llawer o ANG yn gwbl ymwybodol o ofynion a rôl y broses, ac maent yn colli’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Mae’r trefniadau presennol yn eithaf addas ar gyfer athrawon ANG. Eto i gyd, mae’r profiad sefydlu ar gyfer athrawon ANG sy’n cyflenwi yn heriol.

Gwneir chwech argymhelliad, gan gynnwys:

  • gwella’r cyfathrebu ynghylch proses sefydlu athrawon ANG a’r gefnogaeth sydd iddynt, a chynnig rhywfaint o gefnogaeth ar ôl y cyfnod sefydlu

  • cryfhau gofynion asiantaethau cyflenwi, a darparu cyfleoedd ar gyfer lleoliadau tymor hirach i athrawon ANG sy’n cyflenwi mewn un ysgol

Gellir darllen yr adroddiad yn llawn yma.