Mewn cyfnod lle mae sgiliau a mynediad at ddarpariaeth ddigidol yn fwy pwysig erioed, mae Ymchwil OB3 wedi eu comisiynu i gynnal gwerthusiad annibynnol o Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles.
Nid yw 11% o oedolion yng Nghymru ar-lein. Maen nhw’n colli allan ar gyfleoedd i arbed arian, ffeindio gwaith, dysgu sgiliau a chael mynediad at wasanaethau pwysig. Mae nifer ohonynt eisoes yn ymdopi â materion fel unigedd, tlodi neu ddiweithdra – materion sy’n waeth oherwydd nad ydynt ar-lein.
Mae Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant yn cefnogi sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl sydd wedi’u dieithrio’n ddigidol a’u helpu nhw i ddarparu gweithgareddau cynhwysiant digidol er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gallu gweithio’n effeithiol a chael effaith gadarnhaol.
Bydd y gwerthusiad yn edrych ar lwyddiant y cynllun wrth gyrraedd ei amcanion dros y blynyddoedd nesaf, ac hefyd yn edrych ar sut mae’r cynllun wedi ymateb i heriau Covid-19. Yn benodol ydd y gwerthusiad yn:
adolygu’r dystiolaeth ddiweddaraf am y berthynas rhwng cynhwysiant digidol a iechyd
adolygu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y rhaglen
asesu’r modd mae’r rhaglen wedi cyflawni targedau
darparu tystiolaeth o allbynnau a chanlyniadau’r rhaglen i unigolion a’r gwasanaethau y maent yn ceisio mynediad iddynt.