Mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi comisiynu Ymchwil OB3 i gynnal archwiliad canfyddiadau rhanddeiliaid o’r cwmni.
Bwriad yr archwiliad yw cynorthwyo’r Theatr Gen i ehangu dealltwriaeth ynghylch sut mae eu cynnyrch a chynnwys artistig yn cael ei ystyried gan gynulleidfaoedd, cyfranogwyr, lleoliadau a rhanddeiliaid eraill.
Bydd yr ymchwil o fudd i’r Theatr Gen wrth gynllunio rhaglennu a gweithgareddau’r dyfodol; datblygu strategaeth gyfathrebu ac ystyried unrhgyw newidiadau brandio a dylunio.
Bydd yr ymchwil hefyd yn ystyried effaith Covid-19 ar weithgareddau’r cwmni i’r dyfodol.
Mwy o newyddion