Comisiynwyd OB3 i gynnal adolygiad o drefniadau comisiynu awdurdodau lleol ar gyfer darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS). Mae’r adroddiad yn amlinellu’r ymarferion a’r modelau sy’n cael eu defnyddio i gomisiynu a sicrhau ansawdd darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol ar draws awdurdodau lleol Cymru.
Darganfu’r ymchwil nad oes diffiniad clir a dealladwy o Addysg Heblaw yn yr Ysgol, er bod gwybodaeth a chanllawiau wedi’u nodi gan Lywodraeth Cymru.
Mae comisiynu, rheoli a monitro arferion ac adnoddau yn amrywio o un awdurdod lleol i’r llall. Mae ysgolion yn comisiynu darpariaeth allanol yn uniongyrchol yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol.
Mae’r adroddiad yn argymell atgyfnerthu diffiniadau ar gyfer Addysg Heblaw yn yr Ysgol a darpariaeth amgen, a pharatoi canllawiau sy’n canolbwyntio ar:
feini prawf priodol ar gyfer atgyfeirio
comisiynu ymarfer
monitro darpariaeth
annog camau atal mewn ysgolion
disgwyliadau clir ynglŷn ag ailintegreiddio disgyblion i’r ysgol
Gellir gweld yr adroddiad llawn yma a'r crynodeb gweithredol yma.