Heddiw, cyhoeddodd Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau werthusiad canol cyfnod o Gronfa Trawsnewid Cymru Iachach.
Mae dau nod i'r gwerthusiad:
gwerthuso i ba raddau y mae'r Gronfa Trawsnewid wedi cyflymu'r broses ehangach o fabwysiadu ffyrdd newydd o weithio a’u hehangu i ddisodli neu ad-drefnu gwasanaethau presennol er mwyn gwella canlyniadau i bobl
gwerthuso rhannau o fodelau newydd sydd wedi arwain at allu mabwysiadu ac ehangu ffyrdd newydd o weithio yn llwyddiannus (ac yn aflwyddiannus)
Mae'r Adroddiad Gwerthuso Canol Cyfnod Cenedlaethol cyntaf bellach wedi cael ei gwblhau gan Ymchwil Old Bell 3 ac mae'n adlewyrchu'r sefyllfa cyn COVID-19. Mae'r canfyddiadau wedi'u llywio gan Adroddiadau Gwerthuso Canol Cyfnod Rhanbarthol a gyflwynwyd gan bob un o'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, ynghyd â gwaith maes a chyfweliadau a gynhaliwyd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ac Arweinwyr Trawsnewid y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.
Fel rhan o'r broses barhaus o werthuso'r Gronfa Trawsnewid, mae'r gofynion wedi cael eu haddasu yn sgil COVID-19. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ystyried effaith COVID-19 ar weithgarwch trawsnewid. Mae cymunedau maes wedi cael eu sefydlu hefyd i helpu i rannu’r dysgu a’r arferion gorau ac i helpu i hwyluso’r gwaith o ddatrys problemau ledled Cymru.
Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar ar 24 Awst 2020 am ymestyn y Gronfa Gofal Integredig a'r Gronfa Trawsnewid, bydd y gweithgarwch gwerthuso yn darparu sylfaen dystiolaeth bwysig ar gyfer cynllunio a blaenoriaethu unrhyw gyllid a rhaglenni trawsnewid yn y dyfodol ar ôl mis Mawrth 2022.
Mae'r Adroddiad Gwerthuso Canol Cyfnod a'r Crynodeb Gweithredol ar gael yn https://llyw.cymru/y-gronfa-trawsnewid-iechyd-gwasanaethau-cymdeithasol-2018-i-2021-gwerthusiad-canol-cyfnod